Galeri Caernarfon Cyf
Menter cymunedol yn gweithredu fel ymddiriedolaeth datblygu yw Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon Cyf yn gynt).
Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu yn 1992 i ddatblygu prosiectau cymunedol, economaidd, ac amgylcheddol er budd y gymuned yng Nghaernarfon a’i amgylchoedd. Mae’r datblygiad newydd – Canolfan Menter Greadigol y Galeri, sydd yn brosiect £7.5 miliwn ac agorwyd yn Doc Fictoria ym mis Mawrth 2005, yn un o’r prosiectau mwyaf ac uchelgeisiol o holl brosiectau’r Ymddiriedolaeth hyd yma.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am sefydlu a gweithredu prosiectau a chynlluniau eraill o fewn y gymuned leol, gan gynnwys datblygu eiddo; mae’r Ymddiriedolaeth wedi ailwampio ac ailddatblygu 20 o adeiladau oedd gynt yn wag ac yn flêr yng Nghaernarfon. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn gyfrifol am sefydlu a rhedeg prosiect celf llwyddiannus o’r enw SBARC! Mae’r cynllun hwn yn darparu amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithdai mewn perfformio a cherddoriaeth roc ar gyfer plant a phobl ifanc lleol.
Cyraeddiadau
- Arbediad egni yn 2007 o 31% pan mae’r trosiant wedi cynyddu 10%
- Wedi buddsoddi mewn System Reolaeth Adeiladau i reoli gwresogi’r adeilad a gwelliannau eraill, gyda cyfnod ad-dalu o llai na 12 mis
Sylwadau Beirniaid:
‘Roedd y beirniaid yn hoff o’u system reoli adeiledd (SRA) y mae’r galeri wedi buddsoddi ynddo ar gyfer yr adeilad yng Nghaernarfon. Mae’r system yma yn caniatáu i i’r Rheolwr Adeilad i reoli gwresogi ac oeri’r adeilad yn swyddfeydd y tenantiaid, y bar, y theatr, a gweddill yr adeilad. Mae’r Cydlynydd Digwyddiadau yn rhoi gwybod i’r Rheolwr Adeilad am unrhyw ddigwyddiadau sydd yn ystod yr wythnos ac mae’r SRA yn cael ei addasu i siwtio’r amserlen a gweithgareddau. Mae dŵr poeth hefyd yn cael ei reoli can y SRA.

