Rhageiriau ac anerchiadau:
Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru
"Hyrwyddo Cynaladwyedd Amgylcheddol"

Rydym oll yn derbyn bellach y gallai ein gweithgareddau 'heddiw' effeithio'n andwyol ar ein gallu i gyflawni ein gweithgareddau 'yfory' - mae newid yn yr hinsawdd, disbyddu adnoddau a'r effeithiau a gawn ar yr amgylchedd naturiol yn faterion arwyddocaol bellach o ran ein hansawdd bywyd yn y dyfodol - ein gwir safon o fyw.
Cawn ein hannog bob dydd bron yn y cartref, y gwaith a'r gymuned i gymryd camau i fynd i'r afael â'r agenda dra heriol hon. Yma yng Nghymru, credwn ein bod cyn ein hamser, nid yn unig drwy ein dyletswydd statudol ein hunain i hyrwyddo datblygu cynaliadwy ond hefyd drwy'r partneriaethau lawer ac effeithiol a fagwyd i wella ein holion traed ar yr amgylchedd a chynaladwyedd.
Nid wyf yn amau o gwbl y bydd partneriaeth yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd hyn. Mae ein mentrau eraill ym meysydd rheoli ynni, effeithlonrwydd adnoddau a chaffaeliad cynaliadwy eisoes yn darparu atebion ymarferol i wella ein cynaladwyedd amgylcheddol.
Mae eraill yn cyfrannu'n sylweddol, ac nid y lleiaf ohonynt yw busnesau sy'n chwarae eu rhan yn ymateb yn gadarnhaol i fynd i'r afael â'n heffeithiau amgylcheddol a chynaliadwy; yn wir, mae'r Gwobrau Blynyddol hyn wedi arddangos sawl enghraifft o arfer gorau yma yng Nghymru yn ystod y rhyw ddegawd diwethaf. Ond fel y gwyddom oll, nid oes unrhyw ateb cyflym - bydd cynaladwyedd amgylcheddol yn her anferthol am sawl blynedd eto.
Fodd bynnag, mae'r dyfodol yn ddisglair o hyd - yng Nghymru, mae gennym y sgiliau deallusol a busnes i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n codi'n benodol o heriau effeithlonrwydd adnoddau a newid hinsawdd; mae gennym yr ymrwymiad a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth a'r sector cyhoeddus i roi'r fframweithiau ar waith a fydd yn hwyluso newid ymddygiad; ac mae gennym adnoddau ariannol yn y Rhaglenni Cronfeydd Rhanbarthol i gefnogi'r holl ymdrechion hyn. Mae'r dyfodol yn ein dwylo ni.
Rwy'n difaru na allaf fod gyda chi'n bersonol ond dymunaf noson ddymunol i bob un ohonoch. Cymeraf y cyfle hwn i estyn fy llongyfarchiadau personol i bawb sy'n ymwneud â'r noson - yn y rownd derfynol, yn enillwyr, yn noddwyr ac yn westeion - ac, wrth reswm, i Rwydwaith ARENA sydd wedi trefnu'r digwyddiad ers ei lansio am y tro cyntaf rhyw 10 mlynedd yn ôl. Mwynhewch y dengmlwyddiant.
Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cymru