
zodshop:
Proffil y Sefydliad
Mae zodshop yn gwmni dylunio graffig sy’n sensitif i’r amgylchedd. Ei arbenigedd yw gweithio i gwmnïau, elusennau ac unigolion sy’n poeni am faterion amgylcheddol ac sydd eisiau hyrwyddo eu hunain drwy ddefnyddio dylunio ac argraffu sy’n sensitif i’r amgylchedd.
Mae’r stiwdio yn Abercych, Sir Gaerfyrddin yn cael ei bweru’n gyfan gwbl gan ynni adnewyddadwy o’i system ei hun, gan harneisio ynni o’r gwynt, y dwr a’r haul.
Cyflawniadau Amgylcheddol
- Gwasanaeth dylunio heb unrhyw wastraff.
- 100% o ynni adnewyddadwy a ddarperir o’i systemau ei hun.
- Sicrhau bod y broses gyfan o’r dylunio i’r argraffu mor gynaliadwy â phosibl.