ApparatusSurface
Machines

WML Engineering Limited:

Proffil y Sefydliad

Mae WML Engineering Limited yn gweithgynhyrchu darnau wedi’u turnio tra chywir. Mae safle’r cwmni ar Ystâd Ddiwydiannol Crofty, Penclawdd, Abertawe ac mae’n cyflogi 12 aelod o staff. Caiff pob darn ei gynhyrchu yn ôl lluniadau cwsmeriaid i fanylebau union gyda goddefiant nodweddiadol yn feinach na gwallt dynol. Ymhlith y prif farchnadoedd y mae’r sectorau cerbydau modur, awyrofod, meddygol ac electronig/trydanol.

Cyflawniadau Amgylcheddol

  • Wedi arbed £42,000 y flwyddyn drwy roi rhaglen effeithlonrwydd adnoddau ar waith sydd wedi arwain at arbed proses 33%.
  • Wedi arbed £10,250 y flwyddyn drwy adfer naddion wedi’u halogi ag olew, hefyd wedi arbed £18,000 mewn costau staff.
  • Wedi arbed £12,000 y flwyddyn mewn costau trydan a gwresogi drwy osod system gywasgydd newydd sy’n ymgorffori teclyn cyfnewid gwres.
 Sponsers - ARENA Network gratefully acknowledges the support it has received for its Awards from its sponsers Green Dragon Welsh Assembly Government Carbon Trust Countryside Council for Wales Environment Agency Envirowise European Union Objective 1 and 2Wrap L'OrealWelsh Health Estates Severnside Recycling