


Viscose Closures Ltd:
Proffil y Sefydliad
Cwmni preifat yw Viscose Closures Ltd a ffurfiwyd ym 1992. Mae ei brif swyddfa a’i ffatri weithgynhyrchu yn Crawley ac Abertawe yn y drefn honno. Mae’r cwmni’n cyflogi tua 60 o bobl.
Mae Viscose Closures Ltd yn arbenigo mewn caefeydd cynradd ac eilaidd sy’n amlygu ymyrraeth ac yn atal chwiwladrata ar gyfer ystod eang o gymwysiadau mewn sawl diwydiant.
Cyflawniadau Amgylcheddol
- Wedi cwtogi 54% ar wastraff drwy adfer deunyddiau.
- Wedi arbed 27% o’r dwr a ddefnyddir i bob uned a gynhyrchir.
- Wedi cwtogi 21% ar y trydan a ddefnyddir.