

Swansea Valley Holiday Cottages:
Proffil y Sefydliad
Mae Swansea Valley Holiday Cottages yng Nghilybebyll yn Nyffryn Abertawe ar hen fferm laeth. Penderfynodd y perchenogion ymddeol o ffermio ym 1993 a throi adeiladau’r fferm yn bedwar bwthyn. Mae’r busnes yn arwain marchnad y DU mewn gwyliau carbon niwtral; cynigir y cyfle i westeion blannu coeden dderw Gymreig pan fyddant yn cyrraedd.
Cyflawniadau Amgylcheddol
- Wedi gweithredu rhaglen fioamrywiaeth dymor hir, fawr i wrthdroi effeithiau ffermio llaeth dwys.
- Wedi cwblhau cyfnod cyntaf prosiect i ailosod melin ddwr hanesyddol i ddarparu gofyniad ynni cyfan y bythynnod.
- Rhaglen addysgol gynhwysfawr i westeion am fioamrywiaeth y safle.