


Ymddiriedolaeth GIG Abertawe:
Proffil y Sefydliad
Mae Ymddiriedolaeth GIG Abertawe yn darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau ysbyty ac iechyd cymunedol ar gyfer poblogaeth Abertawe. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn darparu llawer o wasanaethau arbenigol i’r bobl ledled de a chanolbarth Cymru a rhai gwasanaethau arbenigol i Gymru gyfan. Darperir y gwasanaethau o 9 ysbyty â mwy na 1,800 o welyau ac mewn amrywiaeth o safleoedd cymunedol. Ymhlith y rhain y mae canolfannau dydd seiciatrig a chanolfannau adnoddau, canolfannau iechyd, clinigau iechyd, meddygfeydd teulu a chartrefi cleifion.
Cyflawniadau Amgylcheddol
- Mae 15 y cant o’r gweithwyr sy’n byw o fewn 4 milltir o’r ysbyty yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cynllun teithio.
- Cynllun beiciau wedi’u disgowntio ar gyfer staff, gyda 58 o feiciau wedi’u prynu.
- Wedi datblygu cyfleusterau helaeth i feicwyr, gan gynnwys cawodydd a chyfleusterau newid, teledu cylch cyfyng ar gyfer rheseli beic, cyfleusterau sychu a chlinigau beic.