BikesCompost
Graph

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

Proffil y Sefydliad

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi bodoli ers 1951. Ei brif ddibenion yw: diogelu a chryfhau harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parc; meithrin lles economaidd a chymdeithasol y cymunedau lleol yn y Parc. Mae Awdurdod y Parc yn cyflogi 175 aelod o staff dros 15 safle.

Cyflawniadau Amgylcheddol

  • Mae prosiect cymunedau bach yn annog grwpiau gwirfoddol, Cynghorau Cymunedol, ysgolion a sefydliadau eraill i fabwysiadu a chryfhau datblygu cynaliadwy.
  • Mae tasglu ynni a dwr y staff wedi gweithio i annog systemau cywain dwr glaw a gosod paneli PV a solar drwy’r parc.
  • Mae rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr i hybu ymwybyddiaeth staff yn sicrhau dealltwriaeth drwyadl o faterion cynaladwyedd ac amgylchedd sy’n effeithio ar weithgareddau’r Parc.
 Sponsers - ARENA Network gratefully acknowledges the support it has received for its Awards from its sponsers Green Dragon Welsh Assembly Government Carbon Trust Countryside Council for Wales Environment Agency Envirowise European Union Objective 1 and 2Wrap L'OrealWelsh Health Estates Severnside Recycling