

Rubbertech [R&G Williams (Rhuthun) Ltd]:
Proffil y Sefydliad
Mae Rubbertech yn cyflogi 4 aelod o staff amser llawn yn ei safle yn Rhuthun, i ddylunio, datblygu a gweithgynhyrchu cynhyrchion rwber ar gyfer y diwydiannau adeiladu a cheffylau. Ei gynnyrch newydd allweddol yw crud acwstig a ddefnyddir yn y diwydiant adeiladu i leihau swn a dirgryniad mewn lloriau, nenfydau a thoi.
Cyflawniadau Amgylcheddol
- Mae’r crud yn cwtogi’n sylweddol ar swn o’r tu mewn a’r tu allan i adeiladau.
- Wedi dyblu trosiant yn y 18 mis diwethaf, ac yn disgwyl i hyn ddigwydd eto.
- Wedi cydweithio’n llwyddiannus â’r byd academaidd a diwydiant.