


Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol:
Proffil y Sefydliad
Mae Canolfan Craflwyn yn ganolfan ragoriaeth wirfoddoli ac yn ganolfan waith i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngorllewin Eryri a Llyn. Yn ogystal â chanolfan ar gyfer amrywiaeth o weithgarwch amgylcheddol ledled ardal Beddgelert, mae hefyd bellach yn lleoliad ar gyfer cyrsiau hyfforddiant, llety hunanarlwyo, aduniadau teulu a phriodasau. Mae’r ganolfan yn cyflogi 15 aelod o staff.
Cyflawniadau Amgylcheddol
- Mae Eco-Lwybr Craflwyn o amgylch yr ystâd yn nodi ardaloedd lle bo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cryfhau bioamrywiaeth.
- Mae pecynnau gwybodaeth i ymwelwyr yn rhoi cyngor am fflora, ffawna a bywyd gwyllt ac yn nodi’r mannau y gellir disgwyl eu gweld.
- Drwy gywain pren yn ofalus, darperir tanwydd ar gyfer boeler biomas; mae compostio’n darparu gwrtaith ar gyfer rhywfaint o gynnyrch cartref.