KingspanNational Aquatic
Siemens

Kingspan Insulated Panels:

Proffil y Sefydliad

Mae Kingspan Insulated Panels, sy’n rhan o Kingspan Group Plc, yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu systemau to, wal a ffasâd wedi’u hinswleiddio ar gyfer y diwydiant adeiladu.

Mae safle Gogledd Cymru Kingspan Insulated Panels yn Nhreffynnon yn cyflogi 422 o bobl ac yn gwasanaethu marchnadoedd ledled Ewrop a rhanbarth Asia-Pasiffig.

Cyflawniadau Amgylcheddol

  • Mae ailgylchu yn safle Treffynnon wedi cynyddu 25 tunnell fetrig y mis, yn bennaf oherwydd defnyddio 13 peiriant byrnu ar y safle. Yn ogystal, cynigir cynllun dychwelyd i ailgylchu deunydd pacio gan gleientiaid.
  • Mae £14,000 cychwynnol wedi’i arbed drwy arolygon aer cywasgedig, ac amcangyfrifir yr arbedir cyfanswm o £50,000 drwy ostyngiadau ynni.
  • Newid fformwleiddiad i graidd inswleiddio sy’n fwy amgylcheddol gadarn a chynaliadwy sydd wedi galluogi Kingspan i gyflawni gradd ‘A’ Canllaw Gwyrdd drwy wiriad annibynnol gan BRE (y Sefydliad Ymchwil Adeiladu).
 Sponsers - ARENA Network gratefully acknowledges the support it has received for its Awards from its sponsers Green Dragon Welsh Assembly Government Carbon Trust Countryside Council for Wales Environment Agency Envirowise European Union Objective 1 and 2Wrap L'OrealWelsh Health Estates Severnside Recycling