

Doncasters Blaenafon:
Proffil y Sefydliad
Mae Grwp Doncasters yn weithgynhyrchwr rhyngwladol sy’n cyflenwi cydrannau a chydosodiadau manylwaith i’r diwydiannau awyrofod, cynhyrchu pwer, cerbydau modur arbenigol, petrocemegol a phroses. Mae cynhyrchion allweddol yn cynnwys dalenni aer, strwythurau, casinau a chylchau, cydrannau gwacau a thanio ar gyfer cymwysiadau tyrbin nwy. Mae Doncasters Blaenafon yn cyflogi 350 aelod o staff yn ei safle, i weithgynhyrchu cylchau cywasgu a llafnau gwyntyll.
Cyflawniadau Amgylcheddol
- Wedi cwtogi 27% ar ddefnydd ynni, sy’n gywerth â 4.5M cilowat awr, o’i gymharu â chynnydd 40% mewn gwerthiannau.
- Wedi trosglwyddo cyfleuster o safle arall a llwyddo i haneru’r ôl troed carbon drwy effeithlonrwydd prosesau.
- Wedi gosod system rheoli ynni cyfrifiadurol (system EMaT) er mwyn rheoli’r ffatri o bell.