
Bayliss Recovery Ltd:
Proffil y Sefydliad
Cwmni ailgylchu cerbydau a metel yn Ne Cymru yw Bayliss Recovery Ltd. Fe'i sefydlwyd ag un tryc dros 15 mlynedd yn ôl gan Howard Bayliss. Erbyn hyn, mae'r cwmni'n cyflogi 44 o bobl, ac mae ganddo fflyd o 17 o gerbydau gyda throsiant blynyddol o £2.5 miliwn.Cyflawniadau
- Mae'n defnyddio proses ynni isel i beiriannu teiars gwastraff, a deunydd problemus, yn ddeunydd a ddefnyddir ar gyfer datblygu tir - amddiffynfeydd rhag llifogydd, erydiad glannau afon, sylfeini ffordd meddal, sefydlogi llethrau a mwy
- Mae'n defnyddio rhwng 94% a 98% llai o ynni na dulliau adfer/gwaredu amgen
- Yn wreiddiol, roedd yn costio £52k y flwyddyn i'r cwmni waredu teiars yn rhan o'r broses adfer cerbydau, ond mae bellach yn cynhyrchu incwm sylweddol o'r broses fyrnu