


Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
Proffil y Sefydliad
Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi bodoli ers 1951. Ei brif ddibenion yw: diogelu a chryfhau harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parc; meithrin lles economaidd a chymdeithasol y cymunedau lleol yn y Parc. Mae Awdurdod y Parc yn cyflogi 175 aelod o staff dros 15 safle.
Cyflawniadau Amgylcheddol
- Mae gwelliannau i’r System Reoli Amgylcheddol wedi arwain at gwtogi 15% ar allyriadau carbon o ddefnydd trydan.
- Cwtogwyd 15% ar y papur a ddefnyddir.
- Arbedwyd 4840 galwyn o dd?r.