

Phoenix Community Furniture Scheme Ltd:
Proffil y Sefydliad
Mae Cynllun Dodrefn Cymunedol Phoenix yn casglu dodrefn a phethau cartref diangen gan gynnwys nwyddau gwyn a phaent. Caiff y nwyddau hyn eu harchwilio, eu hatgyweirio os yw'n bosibl, ac maent ar gael wedyn i bobl ar incymau isel neu fudd-daliadau'r wladwriaeth, gan gynnwys pensiynau.
Mae'r cynllun ar waith yn y Drenewydd a Llandrindod, ac mae'n cynnwys Sir Drefaldwyn a Gogledd Sir Faesyfed.
Cyflawniadau Amgylcheddol
- Wedi cynyddu'r dodrefn sy'n osgoi'r safle tirlenwi o 58 tunnell fetrig yn 2004/5 i 396 tunnell fetrig yn 2006/7
- Wedi lleihau'r dwr a ddefnyddir 28 litr yr wythnos gan ddefnyddio system bag dwr
- Wedi gosod boeler rhaglenadwy effeithlon sy'n cael ei danio â nwy yn lle hen system wresogi'r ystafell arddangos