Adrodd ar Gynaliadwyedd
Gwobr i sefydliadau â llai na 50 o staff
Diffiniwyd mai Datblygu Cynaliadwy yw “datblygiad sy’n bodloni anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain” Adroddiad Bruntland. Mae cynaliadwyedd yn cynnwys tri maes gweithgarwch - yr amgylchedd, economi (ariannol) a chyfrifoldeb cymdeithasol (a allai gynnwys materion staff a’r rheini sy’n ymwneud â’r gymuned ar lefelau amrywiol).
Bydd sefydliadau sy’n ymgeisio am y categori hwn wedi datblygu system adrodd ar gynaliadwyedd gyda thargedau gwelliant. Disgwylir y bydd rhaglen gynaliadwyedd wedi arwain at fuddion wedi’u meintoli.