Defnyddio Adnoddau’n Effeithlon – Gwastraff, Deunyddiau Crai a Chyfleustodau
Mae dwy wobr yn y categori hwn:
1 Gwobr i sefydliadau â llai na 50 o staff
2 Gwobr i sefydliadau â 50 neu fwy o staff
Bydd sefydliadau sy’n ymgeisio am wobr yn y categori hwn wedi gweithredu rhaglenni defnyddio adnoddau’n effeithlon gyda thargedau sy’n arwain at leihau gwastraff a defnyddio llai o ddeunyddiau crai a chyfleustodau. Dylid adrodd am y rhain yn flynyddol. Dylai fod rhaglen wella barhaus ar waith gydag arbedion pellach wedi’u rhagweld.