Defnyddio Adnoddau’n Effeithlon – Lleihau Carbon

Mae dwy wobr yn y categori hwn:

1    Gwobr i sefydliadau â llai na 50 o staff
2    Gwobr i sefydliadau â 50 neu fwy o staff

Bydd sefydliadau sy’n ymgeisio am wobr yn y categori hwn wedi gweithredu rhaglenni gwella gyda thargedau sy’n arwain at leihau carbon. Dylid adrodd am y rhain yn flynyddol. Mae’n hanfodol bod gostyngiadau mewn CO2 yn cael eu dadansoddi a’u hadrodd yn drwyadl yn y cais a bod rhaglen wella barhaus ar waith gydag arbedion pellach wedi’u rhagweld. Bydd y beirniaid yn chwilio am sefydliadau sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy a charbon isel.

 

 

BYn ôl i’r dudalen Geisiadau