Arfer Gorau mewn Prosiectau Cadwyn Gyflenwi
Mae’r wobr hon ar gyfer sefydliadau sydd wedi gweithio gyda’u cadwyn gyflenwi i’w helpu i ddefnyddio adnoddau’n fwy effeithlon, gwella eu heffeithiau ar yr amgylchedd a/neu eu cynaliadwyedd.
Bydd ceisiadau’n cael eu barnu ar lunio rhaglen strwythuredig o gymorth i’r gadwyn gyflenwi, y camau a gymerir gan aelodau’r prosiect a’r canlyniadau ariannol ac amgylcheddol a buddion eraill, mewn perthynas â maint/sector y cwmnïau a’r gyfran o’r gadwyn gyflenwi gyfan a gynrychiolir gan y rheini sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.